Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano

(Dim cyfyngiad oedran)

Canlyniadau 

Cydradd 1af – Ellis Thomas & Edward Leung – £1,050 yr un rhoddedig gan cyn-athrawon cerdd and the R. Davy Jones Trust

Ymgeiswyr Cylch Terfynol – Julia Klimek & Yiwei Ji – £250 yr un rhoddedig gan Catrin Hobson

Perfformiad gorau o’r gân Cymreig: Yiwei Ji – £100 rhoddedig gan David a Margaret Thompson

Alys Roberts (soprano), Sara Trickey (ffidil), Ryan Vaughan Davies (tenor), Richard Craig (ffiwt)

Beirniaid: Simon Phillippo & Harvey Davies – Richard Craig (cylch terfynol yn unig)

Prawf Rhagbrofol

16/17 Hydref 2021 – Theatr, Galeri

13:00 – 16:30 (16.10.2021) & 13:00 – 14:45 (17.10.2021)

Richard Craig (ffliwt) & Ryan Vaughan Thomas (tenor)

Cystadleuwyr i ddarparu un gwaith o adrannau (a) a (b).

Adran A: Gwaith i ffliwt a phiano o’r rhestr canlynol:

  1. Francis Poulenc: ‘Cantilena’ a ‘Presto giocoso’ (Symudiadau 2 a 3) o’r Sonata i ffliwt a phiano
  2. Bohuslav Martinů: ‘Allegro moderato’ (Symudiad 1) o Sonata Rhif 1, H. 306
  3. Charles-Marie Widor: ‘Moderato’ a ‘Scherzo’ (Symudiad 1 and 2) from Suite Op. 34

Adran B: Dwy gân ar gyfer tenor a phiano a ddewisir o un o’r rhestri canlynol:

  1. Clara Schumann: ‘Liebst du um Schönheit¢ 12 No. 4 (D feddalnod fwyaf) a ‘Die Lorelei¢ (G leiaf)
  2. Fanny Mendelssohn: Die Mainacht¢ 9 No. 6 (E feddalnod fwyaf) a ‘Frühling¢ Op. 7 No. 3 (F sharp fwyaf)
  3. Morfudd Llwyn Owen: ‘Gwanwyn¢ (F fwyaf) a Grace Williams: ‘Watching the Wheat/Bugeilio’r Gwenith Gwyn’ (E fwyaf)

Os ydych yn cael anhawster i gael gafael ar unrhyw un o’r darnau prawf uchod cysylltwch efo’r swyddfa 01286 685256

Gwahoddir pedwar cyfeilydd i gymryd rhan yn y prawf terfynol.

Dim tâl mynediad, dewch draw i wylio.

Prawf Terfynol

18 Hydref 2021 – Theatr, Galeri

14:30 – 16:30

17:00 : Cyflwyno Gwobrau

Alys Roberts (soprano) & Sara Trickey (ffidil)

Cystadleuwyr i ddarparu un gwaith o adrannau (a), (b) a (c).

Adran A: Y symudiad agoriadol o un o’r Sonatas canlynol ar gyfer piano a ffidil gan Ludwig van Beethoven: 

  1. ‘Allegro vivace’ o’r Sonata yn A fwyaf Op. 12 Rhif 2
  2. ‘Presto’ o’r Sonata yn A leiaf Op. 23
  3. ‘Allegro assai’ o’r Sonata yn G fwyaf Op. 30 Rhif 3

 Adran B: Dwy gân ar gyfer soprano a phiano a ddewisir o un o’r rhestri canlynol:

  1. Gabriel Fauré: ‘Fleur jetée’ Op. 39 Rhif 2 (F leiaf), a ‘En sourdine’ Op. 58 Rhif 2 (G meddalnod fwyaf)
  2. Frank Bridge: ‘Come to me in my dreams’, H. 71 (E meddalnod fwyaf) a ‘Love went a-riding’, H. 114 (G meddalnod fwyaf)
  3. Samuel Barber: ‘St Ita’s Vision’ a ‘The Heavenly Banquet’ o’r Hermit Songs Op. 29

Adran C: Cyfeiliant i Gân Gymraeg ar fyr rybudd (y gerddoriaeth i’w gyflwyno i’r cystadleuwyr ar ddiwedd canlyniad y Prawf Rhagbrofol).

Tocynnau i Wylio’r Cylch Terfynol

Gwybodaeth Ychwanegol i’r Cyfeilyddion

Cyweirnodau y Caneuon:
Cylch Rhagbrofol – Dylai’r ymgeiswyr baratoi’r cyfeiliant ar gyfer Tenor/Llais Uchel.
Cylch Terfynol – Dylai’r ymgeiswyr baratoi’r cyfeiliant ar gyfer Soprano/Llais Uchel.

Darperir y cantorion i’r gystadleuaeth yma gan yr Ŵyl Biano a bydd cyfle i gael ymarfer byr gyda’r unawdydd yn syth cyn cystadlu.

Am unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â swyddfa trefnwyr yr Ŵyl trwy ebost os gwelwch yn dda – swyddfa@gwylbiano.co.uk

Artistiaid

Ryan Vaughan Davies (Tenor)

Mae’r tenor Ryan Vaughan Davies yn astudio yn yr Academi Cerdd Frenhinol yn Llundain gyda Susan Waters. Yn ifanc fe ddangosodd diddordeb mewn perfformio a chanu clasurol gan gystadlu mewn eisteddfodau a chanu mewn cyngherddau. Yn 2019 fe enillodd Y ruban las yn Eisteddfod Gaerdydd.

Ers gwneud ei début operatig fel yr ail offeiriad yn gynhyrchiad Gŵyl Opera Longborough o Die Zauberflöte, Mae Ryan wedi mynd ymlaen i weithio gyda Gŵyl Ryngwladol Buxton, Gŵyl Y Grange  a Garsington Opera. Yn ddiweddar fu’n perfformio rhan Beppe yn Pagliacci gyda Iford Arts. Mae o ar hyn o bryd yn perfformio rolau Torquemada yn L’heure Espagnole a Gherardo yn Gianni Schicchi.

Mewn cyngherddau mae wedi perfformio mewn llawer o leoliadau fwyaf enwog y DU gan gynnwys Neuadd yr ŵyl frenhinol a Neuadd Frenhinol ALbert yn ogystal â pherfformiadau diweddar yn theatr y Minack , Penzance. Mae’n aelod o ‘extra chorus’ Y tŷ Opera Brenhinol (Covent Garden).

ryanvaughandavies.com

Alys Roberts (Soprano)

Mae Alys Mererid Roberts yn soprano syn hannu yn wreiddiol o Roslan ger 
Cricieth. Ennillodd Alys ysgoloriaeth yr Is-Ganghellor i astudio ym Mhrifysgol 
Durham cyn mynd yn ei blaen i astudio cwrs Meistr mewn canu yn Academi 
Frenhinol Gerdd Llundain ac yna ymuno â’r Ysgol Opera. Mae wedi canu rhannau 
Chocholka a Pepík (The Cunning Little Vixen), Edith (The Pirates of Penzance), 
Annina (La traviata), Tweedledee  (Alices Adventures in WonderlandWill Todd) a 
Tiny Tim / Fan (A Christmas CarolWill Todd) gyda Opera Holland Park, Polly 
Peachum (The Beggars Operaa Shepherd Boy (Tosca) gyda Opera Canolbarth 
Cymru, Yum Yum (The Mikado) Josephine (H.M.S. Pinafore) gyda Charles Court 
Opera, Adina (Lelisir damoregyda Operar Ddraig, Lled-Gorws (Gair ar Gnawd, 
Pwyll ap Siônar Awen (Hedd Wyn, Stephen McNeff) gyda Opera Cenedlaethol 
Cymru, ac wedi eilio rhan Slave (Salomeyn English National Opera. Heblaw am 
ganu, mae Alys wrth ei bodd yn gwnïo, gwneud yoga a mynd am dro gydai milgi 

Sara Trickey (Ffidil)

Mae Sara Trickey yn mwynhau gyrfa gyffrous ac amrywiol fel unawdydd feiolin a cherddor siambr. Yn enwog am ei pherfformiadau “fiery and passionate” (The Strad) a “beautifully refined tone” (Musical Opinion), mae hi’n perfformio mewn nifer o Ŵyliau blaenllaw y DU, gan gynnwys y Presteigne, Alwyn, Oxford May Music, Efrog, Gŵyliau Cerddoriaeth Siambr Ashburton a Wye Valley. Mae hi’n chwarae’n rheolaidd gyda’r pianydd Dan Tong ac mae wedi recordio’r Schubert Sonatinas i ganmoliaeth uchel iawn (“Irresistible!” – Barry Millington). Rhyddhawyd CD o Fauré a David Matthews yn ddiweddar gan Deux-Elles. Gwnaeth recordiad o berfformiad byd 1af o sonatâu ffidil William Mathias gydag Iwan Llewelyn Jones.

Richard Craig (Ffliwt)

Ganed Richard Craig yn Glasgow ac astudiodd y ffliwt yn Conservatoire Brenhinol yr Alban gyda Richard Blake. Parhaodd â’i astudiaethau gyda Mario Caroli yn y Conservatoire de Strasbourg. Mae Richard wedi perfformio gydag ensembles megis Musikfabrik a Klangforum Wien, hefyd gyda grwpiau yn y DU fel Explore Ensemble, Riot Ensemble, Uproar and Octandre. Fel artist recordio mae wedi rhyddhau dwy ddisg unigol (INWARD a VALE) ar gyfer Metier, a nifer o recordiadau cerddoriaeth siambr – y mwyaf diweddar oedd disg o bortread o weithiau siambr y cyfansoddwr John Croft. Roedd Richard yn ddarlithydd ac yn Bennaeth Perfformiad ym Mhrifysgol Bangor, Cymru, rhwng 2015 – 2019. Ar hyn o bryd mae’n byw yn Glasgow, yr Alban.

Rheolau

  • Mae’r holl gystadlaethau ar agor i bianyddion o bob gwlad trwy’r byd.
  • Nid oes modd i bianyddion gystadlu yn y ddwy gystadleuaeth unawdol – rhaid dewis naill a’i yr Unawd Piano Iau neu’r Unawd Piano Hŷn. Ond mae modd i rai sy’n cystadlu yn unawdol gystadlu yn y gystadleuaeth gyfeilio yn ogystal ond bydd angen talu’r ffi gystadlu ar gyfer y ddwy gystadleuaeth.
  • Bydd dyfarniadau’r Beirniaid yn derfynol, ac ni ellir eu herio. Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i atal gwobrau neu leihau y nifer o gystadleuwyr sy’n ymddangos yn y cylch terfynol y os nad yw’r safon yn ddigon uchel ym marn y mwyafrif o’r Beirniaid.
  • Cyn dyddiad agor yr Ŵyl, tynnir enwau’r cystadleuwyr allan o het gan banel annibynnol er mwyn penderfynu trefn y perfformiadau. Dilynir y drefn hon ym mhob Cylch o’r cystadlaethau.
  • Dylai’r recordiad ar gyfer y gystadlaethau unawdol fod yn recordiad heb ei olygu a dylid ei gyflwyno yn electronig wrth i chi wneud cais drwy ddarparu dolen i ni lawrlwytho neu wrando/gweld y recordiad ar wasanaeth rhannu ffeiliau e.e. WeTransfer, Dropbox, YouTube ayb. (Lle’n berthnasol sicrhewch bod y caniatâd rhannu ffeiliau priodol wedi eu gosod sy’n ein galluogi ni i weld/lawrlwytho eich ffeil).
  •  Dylid cynnwys llythyr o gymeradwyaeth gan diwtor presennol neu fwyaf diweddar yr ymgeisydd. Nid oes angen darparu recordiad ar gyfer y Gystadleuaeth Gyfeilio ond rhaid cynnwys llythyr o gymeradwyaeth efo’r cais.
  • Bydd modd ymgeisio o 1 Hydref 2019 ymlaen. Dyddiad cau ar gyfer ffurflenni cais a recordiadau fydd 17 Ionawr 2021 am 6pm.
  • Ffioedd cofrestru: Piano Unawdol Iau: £30; Piano Unawdol Hŷn a Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano: £40. Mae’r ffioedd yn cynnwys mynediad i holl weithgareddau’r Ŵyl ag eithrio datganiad piano John Lill.
  • Ad-deilr 75% o’r ffi gystadlu i’r ymgeiswyr sydd ddim yn cael eu gwahodd i ymddangos ym mhrofion rhagbrofol y cystadlaethau unawdol piano hŷn ac iau.
  • Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu dewis i ymddangos yn y profion rhagbrofol yn cael gwybod dim hwyrach na’r 15 Gorffennaf 2021.
  • Os yw ymgeisydd yn tynnu allan o’r gystadleuaeth am unrhyw reswm ni ad-delir y ffi gofrestru.

Gwobrau

  • Y Wobr Gyntaf: £1500
  • Yr Ail Wobr: £600
  • 2 ymgeisydd terfynol arall: £250 yr un
  • Gwobr am y perfformiad gorau o’r Gân Gymraeg (Prawf Terfynol): £100