Preloader

Addysgwyd Susie Allan yng Ngholeg Merched Malvern, Coleg Worcester, Rhydychen a Choleg Cerdd a Drama y Guildhall, Llundain, ble’r astudiodd gyfeilio gyda Paul Hamburger, Graham Johnson, Iain Burnside a Martin Isepp (yng Nghanolfan Gelfydddydau Banff, Alberta). Enillodd sawl gwobr yn cynnwys Gwobr Gerald Moore a Gwobr Goffa Geoffrey Parsons. Ar ôl cwblhau ei hastudiaethau yn y Guildhall bu’n gyfeilydd cyson mewn dosbarthiadau meistr yn y Britten-Pears School (a sefydlwyd gan Benjamin Britten yn Snape Maltings). Bu’n gyfeilydd yno i ddosbarthiadau Elly Ameling, Roger Vignoles, Elisabeth Soderstrom, Anthony Rolfe Johnson, a Hugues Cuenod, ac eraill.

Mae Susie yn fwyaf adnabyddus fel cyfeilydd i gantorion gan ymddangos ar lwyfannau cyngerdd ym Mhrydain ac Ewrop gyda nifer o gantorion Prydeinig yn cynnwys William Dazeley a Susan Gritton, yr Americanwr Thomas Randle a Nathan Berg o Ganada. Bu’n Bennaeth Cyfeilio yn y Coleg Cerdd Brenhinol, Llundain a’r Coleg Cerdd a Drama Brenhinol, Caerdydd ac mae hi wedi cynnal dosbarthiadau meistr yn yr East Anglian Summer Music School.

Mae Susie wedi cydweithio ers blynyddoedd gyda’r baritôn Roderick Williams gan ymddangos gydag ef mewn gwyliau ledled Prydain yn ogystal â chyngherddau yn Ffrainc, Awstria (Schloss Atzenbrugg- Schubert Museum) a New Haven (Yale).  Mae hi hefyd wedi recordio crynoddisgiau a darllediadau gydag ef, yn fwyaf diweddar ar gyfer y BBC Proms i deledu a radio gan roi’r perfformiad cyntaf o’i drefniant ef o Amazing Grace.

Mae prosiectau diweddar yn cynnwys perfformio trefniant i bedair llaw o La Traviata ar gyfer Opera a la Carte yng Ngŵyl Bermuda a nifer o ddatganiadau deuawdau piano gyda Rosalind Jones. Bydd hefyd yn perfformio ledled Prydain ac Ewrop gyda Roderick Williams yn ddiweddarach yn 2016.

 

 

Lleoliad

  • Lleoliad
    Galeri
    Doc Victoria
    Caernarfon
    Gwynedd
    LL55 1SQ
    UK
  • Rhif Ffôn
    +44 (0) 1286 685230
  • Ebost

Cyfarwyddiadau

Cyfarwyddiadau

Nodwch eich Man Cychwyn o dan Derbyn Cyfarwyddiadau a phwyso’r botwm Derbyn Cyfarwyddiadau.