Preloader

Wedi ei eni yn Sir Benfro ym 1988, astudiodd Luke Lewis gyfansoddi gyda Joe Duddell ym Mhrifysgol Salford a Hans Abrahamsen yn Academi Gerdd Frenhinol Denmarc. Mae bellach yn cwblhau gradd doethur o dan arweiniad Robert Saxton yn Christ Church, Rhydychen, gyda chefnogaeth Ysgoloriaeth AHRC/Christ Church ac yn diwtor cyfansoddi. Bu’r diweddar Steve Martland yn fentor arno.  Mae ei gerddoriaeth wedi ei berfformio yn rhyngwladol ac mae uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformiad cyntaf gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC; gwaith i agor Gŵyl Pulsar 2014 yn Copenhagen gyda’r Athelas Sinfonietta, a gosod geiriau gan Sir Geoffrey Hill ar gyfer  Orkest de Ereprijs yn yr Iseldiroedd. Ochr yn ochr â’i gyfansoddi clasurol, mae Luke yn gweithio fel cerddorfaethwr ac ymgynghorydd cerdd ar i amryw o brosiectau, gan gydweithio yn aml gyda cherddorfeydd a bandiau pop. Mae hefyd yn golygu operâu Baróc / Clasurol.

Lleoliad

  • Lleoliad
    Galeri
    Doc Victoria
    Caernarfon
    Gwynedd
    LL55 1SQ
    UK
  • Rhif Ffôn
    +44 (0) 1286 685230
  • Ebost

Cyfarwyddiadau

Cyfarwyddiadau

Nodwch eich Man Cychwyn o dan Derbyn Cyfarwyddiadau a phwyso’r botwm Derbyn Cyfarwyddiadau.