Preloader

Magwyd Iwan yn Ynys Môn gan dderbyn ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen a’r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle’r enillodd sawl ysgoloriaeth a gwobr am ei berfformiadau  a’i ysgolheictod academaidd. Mae wedi cyflwyno datganiadau unawdol yn neuaddau gyngerdd enwoca’r byd, megis Wigmore Hall, Neuadd Dewi Sant, Y Tŷ Opera yn Sydney, a’r Gewandhaus yn Leipzig.

Fel unawdydd cyngerdd, mae Iwan wedi ennill clod a pharch am ei ddehongliadau deallus o gerddoriaeth Ffrengig. Yn ddiweddar derbyniodd Iwan ysgoloriaethau oddi wrth Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Paris-Sorbonne i gyflawni ymchwil doethurol ar bianyddiaeth y cyfansoddwr Maurice Ravel. Mae ei recordiadau yn cynnwys casgliadau o gerddoriaeth unawdol i’r piano gan Debussy, Ravel, Fauré, Chabrier, Poulenc a Messiaen (‘Portreadau Ffrengig’) ynghyd â chryno ddisg o gerddoriaeth Cymraeg sy'n cynnwys gweithiau a gyfansoddwyd ar ei gyfer gan Alun Hoddinott , John Metcalf , Richard Elfyn Jones , Pwyll ap Sion a Syr Karl Jenkins.

Derbyniodd gryn ganmoliaeth am ei ddisg ‘Caneuon heb eiriau’, sef casgliad o ganeuon adnabyddus Cymraeg, wedi’u trefnu a’u perfformio gan Iwan, a gyhoeddwyd yn 2011. Fe fydd cryno ddisg o berfformiadau byw o weithiau Frédéric Chopin yn cael ei rhyddhau yn 2016 ynghyd â’r recordiad cyntaf o drefniant Iwan o’r Consierto Op.11 ar gyfer piano unawdol. Mae Iwan wedi derbyn sawl anrhydedd gan gynnwys Gwobr Syr Geraint Evans er clod am ei gyfraniad sylweddol i gerddoriaeth yng Nghymru, ac Ysgoloriaeth Cymry Creadigol gan y Cyngor Celfyddydau.

Lleoliad

  • Lleoliad
    Galeri
    Doc Victoria
    Caernarfon
    Gwynedd
    LL55 1SQ
    UK
  • Rhif Ffôn
    +44 (0) 1286 685230
  • Ebost

Cyfarwyddiadau

Cyfarwyddiadau

Nodwch eich Man Cychwyn o dan Derbyn Cyfarwyddiadau a phwyso’r botwm Derbyn Cyfarwyddiadau.