Preloader

Ganwyd Gareth Owen yng Ngogledd Cymru a mynychodd YsgolGerdd Chetham’s ym Manceinion a Choleg Cerdd a Drama Y Guildhall yn Llundain.  Astudiodd gyda Alicja Fiderkiewicz ac yn ddiweddarach gyda Joan Havill. Enillodd Gareth wobr Leszeck Dessent am ei berfformiad o waith Chopin gan raddio yn 2000 yng Ngholeg Y Guildhall lle y dyfarnwyd gwoobr arbennig Premier Prix iddo. Bu hefyd yn astudio yn yr Academie International de Musique de Maurice Ravel yn Ffrainc ac yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Banff, Canada.

Mae Gareth wedi perfformio fel unawdydd a cherddor siambr mewn nifer o neuaddau byd enwog gan gynnwys Prydain, Ffrainc, Yr Almaen, Norwy, Awstralia, Canada ac Unol Daleithiau’r America. Yn ddiweddar, bu’n perfformio Concerto Ravel yn G fwyaf yn Neuadd Blackheath yn Llundain a chyflwyno datganiad yng Ngŵyl de Muisique Dans Les Vignes yn Ffrainc.  Mae Gareth yn diwtor piano yng Ngholeg Cerdd a Drama y Guildhall, Llundain ac yn Bennaeth ar yr Adran Piano yn Ngholeg Eton, Windsor.

Lleoliad

  • Lleoliad
    Galeri
    Doc Victoria
    Caernarfon
    Gwynedd
    LL55 1SQ
    UK
  • Rhif Ffôn
    +44 (0) 1286 685230
  • Ebost

Cyfarwyddiadau

Cyfarwyddiadau

Nodwch eich Man Cychwyn o dan Derbyn Cyfarwyddiadau a phwyso’r botwm Derbyn Cyfarwyddiadau.