Preloader

Â'i gwreiddiau rhwng Creigiau yn ne Cymru a Llansannan a Llandderfel yn y gogledd, mae'r pianydd Siwan Rhys yn byw yn Llundain ac yn arbenigo mewn cerddoriaeth gyfoes glasurol a chydweithio gyda chyfansoddwyr.

Mae hi wedi perfformio yn nifer o neuaddau cyngerdd pwysicaf Prydain gan gynnwys neuadd y Barbican, Neuadd Dewi Sant, Purcell Room, Venue Cymru, St John's Smith Square, a Neuadd Brangwyn, ac yn yr Aldeburgh Festival, The Rest is Noise yn y Southbank Centre, Brighton Festival, Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Occupy the Pianos, Oxford Lieder Festival, London Contemporary Music Festival, a'r City of London Festival. Mae wedi perfformio hefyd mewn lleoliadau mwy amgen gyda sefydliadau megis Nonclassical, New Dots, Bodycorps, a Multi-Story.

Mae ei pherfformiadau diweddar yn cynnwys datganiadau o'r Concord Sonata gan Charles Ives yn Ffrainc fel rhan o'r gyfres Oeuvres Monstres, yn St John's Smith Square, ac fel rhan o ddarlith yr ysgolor Charles Ives enwog yr Athro J Peter Burkholder. Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys darn pedair-awr Morton Feldman For Philip Guston yn y Principal Sound Festival, teithio gydag opera newydd Rolf Hind Lost in Thought ble mae hi'n chwarae yn bennaf y tu fewn i'r offeryn, a nifer o ddatganiadau o Kontakte gan Stockhausen gyda George Barton gan gynnwys yn St John's Smith Square ac fel prif artistiaid gŵyl Pioneers of Electronic Music Festival y sefydliad Nonclassical.

Mae llawer iawn o waith Siwan yn gysylltiedig â pherfformio a chomisiynu darnau newydd. Yn 2013 fe gomisiynodd chwe darn newydd ar gyfer piano ac offerynau taro, ac yn 2014 fe gomisiynwyd pedwar darn newydd ar gyfer ei ensemble piano a percussion gan y sefydliad New Dots. Yn ddiweddar mae hi wedi gweithio gyda chyfansoddwyr yn cynnwys Richard Baker, Rolf Hind, Steve Potter, Mark David Boden, Benjamin Tassie, a Mark Darvill-Evans ar gerddoriaeth unawdol a siambr, recordiadau, ac operáu newydd.

Mae Siwan hefyd yn bianydd ensemble a cherddorfaol rheolaidd, wedi gweithio gyda'r London Symphony Orchestra, Birmingham Contemporary Music Group, Mahogany Opera Group, Rambert Dance, a Multi-Story Orchestra, gydag arweinyddion megis François-Xavier Roth, George Benjamin, Jesús López Cobos, Diego Masson, Richard Baker, ac Elgar Howarth. Mae ei pherfformiadau wedi cael eu darlledu ar BBC1, S4C, BBC Radio 3, a BBC Radio Cymru.

Astudiodd Siwan yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y Conservatoire National de Rennes, a'r Guildhall School of Music and Drama, gyda'r pianyddion Richard Ormrod, Alexandre Léger, a Rolf Hind. Bu hi hefyd yn astudio gyda Florent Boffard yn yr Académie Internationale de Courchevel yn 2010. Yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru fe enillodd yr holl wobrau piano, ac yn Ffrainc daeth yn Ysgolor Entente Cordiale. Yn 2011 fe enillodd Ruban Glas Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, a wedi hynny cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd yn 2012. Cafodd ei hastudiaethau eu cefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth y Guildhall School, y Sir Richard Stapley Educational Trust, Gwobr Phyllis Simons, The Worshipful Company of Innholders, ac Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen. Cafodd ei dewis ar gyfer cynllun Live Music Now Yehudi Menuhin yn 2012, a daeth yn Gymrawd Artist y Guildhall yn arbenigo mewn cerddoriaeth gyfoes i'r piano yn 2013.

Mae hi'n athrawes biano yn y London Contemporary School of Piano.

Lleoliad

  • Lleoliad
    Galeri
    Doc Victoria
    Caernarfon
    Gwynedd
    LL55 1SQ
    UK
  • Rhif Ffôn
    +44 (0) 1286 685230
  • Ebost

Cyfarwyddiadau

Cyfarwyddiadau

Nodwch eich Man Cychwyn o dan Derbyn Cyfarwyddiadau a phwyso’r botwm Derbyn Cyfarwyddiadau.