Preloader

 

Yn wreiddiol o Casachstan, mae Evgenia Startseva, yn bianydd â gyrfa ryngwladol fel unawdydd a cherddor siambr.

Astudiodd yn y Russian Genessins’ Academy of Music gyda Theodore Gutmann a Ekaterina Derzhavina ac yna fel myfyriwr ôl-radd yn y Conservatoire yn Moscow ac yna’r Musikhochschule yn Saarbrücken.

Mae amserlen berfformio brysur Evgenia wedi ei gweld yn perfformio ar draws y byd yn cynnwys Rwsia, Yr Almaen, Yr Eidal, Hwngari, Iwerddon, Groeg, Mecsico, De Affrica, Unol Daleithiau America a’r DU, lle mae hi bellach yn byw. Mae hi hefyd wedi cymryd rhan mewn amryw o ddarllediadau ar gyfer ITV, Sky Arts TV (DU), Südwestrundfunk (Baden-Baden), ORF2 (Vienna), Westdeutscher Rundfunk (Cologne), RTE (Iwerddon), Saarlländischer Rundfunk(Yr Almaen) a Eastern Kazakhstan Television.

Cymerodd rhan mewn nifer o Wyliau Rhyngwladol, megis yr International Classical Music Festival  yn Pretoria, Festival Internazionale d' Autunno yn Bergamo, Lower Machen a Gŵyl Gerdd Criccieth yng Nghymru ac mae hi wedi perfformiadau mewn lleoliadau mawreddog yn cynnwys  y Royal Albert Hall, Middle Temple Hall yn Llundain, National Concert Hall yn Glasgow, Bridgewater Hall ym Manceinion, National Concert Hall yn Nulyn, Walt Disney Hall yn LA, Metropolitan Museum yn Efrog Newydd, Megaro Hall yn Athens a Presidential Palace yn Astana.  

Mae Evgenia wedi perfformio fel unawdydd ac fel aelod o ensembles siambr gyda cherddorion blaenllaw yn cynnwys Maxim Vengerov, Alisa Weilerstein, Nadezhda Korshakova, Yuri Paterson-Olenich, Ebéne String Quartet, Bingham String Quartet, Edinburgh String Quartet, Regency Ensemble ac eraill. Cychwynnodd gydweithio gyda Maxim Vengerov pan wnaethant ymddangos ar  y Classical Brit Awards yn Llundain ym Mai 2003 a mynd ar daith hynod lwyddiannus ledled Ewrop a’r UDA yn perfformio rhaglen oedd yn cynnwys tair sonata i’r ffidil gan Brahms. Fe’i disgrifiwyd gan adolygwyr fel ‘rhagorol’, ‘super-sensitive’, ‘remarkably powerful and having a magnetic empathy.’

Dewiswyd Evgenia ar gyfer cynllun ‘Live Music Now’ Yehudi Menuhin yn 2005.

Mae ei dau recordiad: y cyntaf gyda’r feiolinydd Nadezhda Korshakova o weithiau Mozart Prokofiev a Schedrin yn 2000 ar gyfer DMK Classics, a’i CD unawdol o Breliwdiau Shostakovich a Visions Fugitives gan Prokofiev ar gyfer label Prometheus Editions wedi derbyn canmoliaeth uchel iawn.

Bydd recordiad diweddaraf Evgenia o weithiau gan Nikolai Medtner ar gyfer Saarlandischer Rundfunk mewn cydweithrediad â label Prometheus Editions yn cael ei ryddhau yn hwyrach eleni.

Mae Evgenia yn diwtor piano yn Ysgol St. Paul ac yng Ngholeg Eton yn Llundain. Mae hi hefyd yn cydredeg cwrs haf 'Zongora Piano Week' ar gyfer oedolion amatur sy’n chwarae’r piano.

Lleoliad

  • Lleoliad
    Galeri
    Doc Victoria
    Caernarfon
    Gwynedd
    LL55 1SQ
    UK
  • Rhif Ffôn
    +44 (0) 1286 685230
  • Ebost

Cyfarwyddiadau

Cyfarwyddiadau

Nodwch eich Man Cychwyn o dan Derbyn Cyfarwyddiadau a phwyso’r botwm Derbyn Cyfarwyddiadau.