Preloader

Mae Caroline Rae yn ddarllenydd Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi wedi cyhoeddi llyfrau ar gerddoriaeth Ffrengig o gyfnod Debussy ymlaen a hefyd yn arbenigwraig ar waith Alejor Carpentier. Mae hi ar hyn o bryd yn paratoi’r astudiaeth gyntaf ar André Jolivet yn Saesneg, a fydd yn cael ei gyhoeddi gan Ashgate. Fel pianydd, mae hi wedi perfformio fel unawdydd yn rhyngwladol ynghyd ag yn y DU gan ganolbwyntio ar repertoire sy’n berthnasol i’w diddordeb mewn cerddoriaeth Ffrengig. Yn ddiweddar rhoddodd y perfformiad cyntaf o waith Jolivet ‘Hope Snake Dance’ gydag Iwan Llewelyn-Jones fel rhan o Ŵyl y Philharmonica Orchestra’s City of Light: Paris 1900-1950. Yn ddisgybl i Dame Fanny Waterman aeth ymlaen i astudio gyda Yvonne Loriod-Messiaen ym Mharis, ac yn y Hochschule für Musik und Theater yn Hanover. Gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, hi oedd cyd-drefnydd Gŵyl Discovering Dutilleux a ddigwyddodd ym mhresenoldeb y cyfansoddwr yn 2008, Composer Portrait (2011), y Paul Sacher Perspectives Season (2012) ynghyd â dathliadau Canmlwyddiant Dutilleux ym mis Ionawr 2016. Hi oedd Ymgynghorydd Gŵyl Philharmonia Orchestra’s City of Light: Paris 1900-1950 (2014-15) ac mae hi wedi rhoi darlithoedd cyhoeddus yn y Royal Festival Hall, Barbican a Choleg Brenhinol Llundain. Mae hi’n darlledu yn rheolaidd ar BBC Radio 3, ac mae prosiectau diweddar yn cynnwys BBC Ravel Day, y gyfres i-wonder Guide, BBC Proms Extra ar Messiaen a Dutilleux Composer of the Week.

Lleoliad

  • Lleoliad
    Galeri
    Doc Victoria
    Caernarfon
    Gwynedd
    LL55 1SQ
    UK
  • Rhif Ffôn
    +44 (0) 1286 685230
  • Ebost

Cyfarwyddiadau

Cyfarwyddiadau

Nodwch eich Man Cychwyn o dan Derbyn Cyfarwyddiadau a phwyso’r botwm Derbyn Cyfarwyddiadau.